Contact us on 01792 721 725 or ideas@urbanfoundry.co.uk

O doeau gwyrdd i waliau byw - hyfforddiant WEDI'I ARIANNU'N LLAWN

O doeau gwyrdd i waliau byw – hyfforddiant WEDI’I ARIANNU’N LLAWN

I ddarllen y dudalen hon yn Saesneg, cliciwch YMA

Ehangwch eich sgiliau a’ch gwasanaethau gyda hyfforddiant seilwaith gwyrdd.

Beth mae’n ei olygu?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi partneru â Chyngor Abertawe i ddarparu cyfle gwych i uwchsgilio. Perffaith ar gyfer tirlunwyr, garddwyr, busnesau adeiladu a chynnal a chadw lleol yn ardal Abertawe.

Fel rhan o waith dan y Gronfa Adnewyddu Cymunedol gyda Llywodraeth y DU, datblygwyd cyfres o gyrsiau hyfforddi rhagorol. Mae’r rhain i gyd yn cael eu harwain gan arbenigwyr a’u hariannu’n llawn felly nid oes unrhyw gost i’r cyfranogwyr.

Bydd y galw am y lleoedd cyfyngedig yn uchel felly peidiwch â cholli’r cyfle – cofrestrwch heddiw.

Mae manylion y cyrsiau isod. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i gyrsiau ychwanegol gael eu cadarnhau.

Gwybodaeth am y cwrs

Meithrin Natur – Cynnal a Chadw Tiroedd ar gyfer natur a phobl – gyda John Little a Barry Stewart

Sesiwn bore 9:30am – 12:30pm, Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2022 (yn cynnwys cinio)
Sesiwn ymarferol yn y prynhawn 2:00pm – 4:00pm (dim ond 15 lle sydd ar gael ac mae angen i chi fynychu sesiwn y bore i gymryd rhan)

Lleoliad: HQ Urban Kitchen, Hen Orsaf yr Heddlu, Llys Glas, 37 Stryd y Berllan, Abertawe SA1 5AJ

Lleoliad y prynhawn: Ymweliad â datblygiad Stryd Fawr Coastal Housing a safleoedd eraill i drafod rhoi syniadau ar waith yn ymarferol.

Mae hwn yn weithdy rhyngweithiol 1 diwrnod wedi’i rannu’n ddwy ran. Cynhelir sesiwn y bore dan do yn HQ Urban KItchen a darperir cinio. Bydd sesiwn y prynhawn allan ar y safle.

Perffaith ar gyfer busnesau lleol sy’n cynnal tiroedd yn ardal Abertawe e.e. garddwyr a gweithwyr cynnal a chadw/cwmnïau.

Sesiwn bore 9:30am – 12:30pm (gan gynnwys cinio)

Bydd y gweithdy boreol yn ymdrin â sut y gellir cynnal a chadw tiroedd a mannau cyhoeddus i sicrhau bioamrywiaeth a llawenydd.

Agenda:

  • Cyflwyniad i gynnal mannau gwyrdd, astudiaeth achos – Ystad Clapton Park Hackney
  • Sut y gall cynnal a chadw gael ei deilwra i obeithion ac anghenion trigolion – canolbwyntio ar blannu a thyfu bwyd fel rhan hanfodol ar gyfer gofalu am fannau a rennir
  • Strwythur, topograffeg a phriddoedd i gyflawni bioamrywiaeth a llawenydd, gyda ffocws ar dai cymdeithasol a mannau cyhoeddus
  • Dewis planhigion – planhigion brodorol yn erbyn planhigion anfrodorol
  • Pwysigrwydd tarddiad lleol
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer cyfoethogi bioamrywiaeth
  • Enghreifftiau o brosiectau lleol

Sesiwn prynhawn 2:00pm – 4:00pm

Bydd sesiwn y prynhawn yn cynnwys taith gerdded o amgylch yr ardal leol gan ymweld â datblygiad Stryd Fawr Grŵp Tai Coastal a safleoedd tebyg i drafod sut y gellir cymhwyso syniadau at safleoedd go iawn.

Bydd y sesiwn hon allan yn yr ardal leol a bydd yncynnwys taith gerdded 1.5 – 2 filltir o amgylch Canol y Ddinas. Bydd y llwybr yn gymysgedd o balmentydd, priffyrdd a thir agored.
Mae angen i gyfranogwyr  ddod â dillad gwrth-ddŵr ac esgidiau priodol.

Os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn neu’n pryderu am unrhyw anghenion ychwanegol sydd gennych ar gyfer y daith gerdded, mae croeso i chi roi’r manylion i ni ymlaen llaw fel y gallwn geisio gwneud y trefniadau angenrheidiol.

John Little

Am John Little

Mae John yn dadlau yn erbyn protocol hirsefydlog o fewn mannau cyhoeddus a garddwriaeth. Mae’n awgrymu bod cymhlethdod strwythurol yn cael ei anwybyddu wrth ddylunio tirwedd a’i fod yn bwysicach na dewis planhigion

Ers cychwyn y Grass Roof Company ym 1998, mae wedi dylunio ac adeiladu dros 300 o adeiladau to gwyrdd bach, gan gyfuno toeau gwyrdd bioamrywiol dwfn gyda waliau o fannau magu a gaeafgysgu.

Ar ôl 18 mlynedd yn gofalu am y mannau gwyrdd ar ystâd Clapton Park, Hackney, cynhyrchodd gontract cynnal a chadw tiroedd cynaliadwy sy’n rhoi pobl yn gyntaf. Mae’n cwestiynu ein hobsesiwn â nodi pridd uchaf ym mhob prosiect newydd, yn enwedig ar briffyrdd a datblygiadau newydd. Mae treialon cynefin yn ei gartref yn cynnwys gardd a ddyluniwyd gyda rwbel o’r cynllun lledu ffyrdd lleol, gwastraff diwydiannol ac adeiladu

Yn 2008 lansiodd amrywiaeth o lochesi to gwyrdd bach yn seiliedig ar gynwysyddion cludo a dylunio strwythurau cludadwy gan gynnwys storfa beiciau a biniau.

Barry Stewart

Am Barry Stewart

Mae Barry yn ecolegydd planhigion, infertebratau ac adar gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad proffesiynol fel ymgynghorydd hunangyflogedig yn gweithio yn ne Cymru.

Yn gweithio am flynyddoedd lawer ym maes tirfesur ecolegol, fe wnaeth Barry a’i wraig / partner busnes Sandra nodi bod angen planhigion gwyllt gyda tharddiad lleol ar gyfer prosiectau lliniaru a chadwraeth leol.

Gan dyfu o’r angen cychwynnol i helpu i warchod y Glöyn Byw Britheg y Gors sydd dan fygythiad byd-eang, cenhadaeth Blodau Gwylltion Celtaidd yw cefnogi bywyd gwyllt Prydain, gyda Baryi a Sandra yn cynghori ac yn tyfu’r ‘rhywogaeth iawn ar gyfer y gofod iawn’ i gefnogi a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru ac o amgylch y Deyrnas Unedig.

Anfonwch e-bost ideas@urbanfoundry.co.uk ag unrhyw ymholiadau.

Ariennir seminarau a gweithdai gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol.

nrw logo
uk government logo
swansea council logo
urban foundry logo