Contact us on 01792 721 725 or ideas@urbanfoundry.co.uk

Creative pop-ups breathe new life into Llanelli’s YMCA / Siopau sionc creadigol yn bywlogi YMCA Llanelli

Creative pop-ups breathe new life into Llanelli’s YMCA / Siopau sionc creadigol yn bywlogi YMCA Llanelli

Creative pop-ups breathe new life into Llanelli’s YMCA

As leading experts in activating meanwhile spaces, Urban Foundry has been working with Carmarthenshire County Council to transform Llanelli’s YMCA building via a series of creative pop-ups.

The new units at YMCA have created a platform for local creatives and entrepreneurs to test-trade, connect with new audiences, and build their business confidence in a supportive setting.

The project has activated three units – Units 1, 3, and 4 – with creative traders and artists, giving them a space to showcase their work, connect with the community, and grow their businesses.

 

Cariad Love

Sophie Powell of Cariad Love is a talented young jewellery maker who has spent the last 18 months selling her handmade pieces at local markets. This is her first move into a commercial setting, and it is already proving to be a game changer. Sophie has now taken on a longer-term let in the unit, marking a big step in her business journey.

‘It’s been amazing to have a proper shop space to display my jewellery. I even had someone commission a ring to use as a wedding ring – it’s such a confidence boost.’ Sophie Powell, Jewellery Maker, Cariad Love

 

Jo Partridge Glass

Jo Partridge, a familiar face at Urban Foundry’s Swansea Bay Street Markets, is also selling her work and is looking to run glass workshops every Saturday in Unit 3. Participants can create their own glass pieces, which Jo then fires in her kiln for collection the following week.

‘It’s a brilliant way to get people engaged with the space. I love seeing people leave with something they’ve created themselves too.’ Jo Partridge, Glass Artist, Jo Partridge Glass

After a successful test run, Jo has extended her stay until the end of May.

 

Hannah Davies

Architectural, interior designer and fine artist, Hannah Davies, (also an associate at Urban Foundry!), is exhibiting her oil on canvas pieces in Unit 4. The exhibition includes some of her latest works. Hannah is also the mother of Makenzy Beard, a young artist whose work has gained global attention.

‘It’s been wonderful to share my art in such a lovely setting. I’ve had some lovely feedback, and it’s really nice to meet people and chat about my work, and art in general.’ Hannah Davies, Associate, Urban Foundry

 

Welsh Government and Carmarthenshire County Council visit

Jayne Bryant MS, Cabinet Secretary for Housing and Local Government, toured the pop-up project with key representatives from Welsh Government and Carmarthenshire County Council.

Welsh Government representatives included:

Nick Williams, Commercial Lawyer

Jonathan Baxter, Senior Research Officer

Carmarthenshire County Council representatives included:

Wendy Walters, Chief Executive

Cllr Hazel Evans, Cabinet Member for Regeneration, Leisure, Culture and Tourism

Stuart Walters, Head of Economic Development

Tessa Bufton, Town Centre Regeneration Manager

 

Cllr Hazel Evans commented:

“Projects such as this bring fresh energy to town centres, giving local businesses a real chance to shine. Pop-up shops are a fantastic way to revitalise our high streets, the introduction of these pop-up shops in Llanelli serves not only as a means of economic stimulation but also as a strategic tool to enhance footfall, support entrepreneurship, and reinvigorate the high street. The units at the former YMCA forms part of Carmarthenshire County Council’s wider town centre developments which includes improving the use of vacant and underutilised properties in the town centre, and has been part funded by Welsh Government’s Transforming Towns Programme”.

 

Tara Tarapetian, Director, Urban Foundry:

‘It’s been brilliant to see the impact of these pop-ups, not just for the traders, but for the whole community. We’re always aware of the economic impact of pop-ups, but this is also about cultural impact – supporting small businesses in the creative sector. That’s really important to us. There’s a real buzz around the YMCA building now.

 

The success of pop-ups

This brings Urban Foundry’s total to 81 pop-ups across the entire project and different local authorities – a testament to how transformative these initiatives can be for local businesses and the community.

The impact of these pop-ups is big – for the traders, it’s an opportunity to trial new ideas, grow their customer base, and experience running a shopfront without the long-term commitment (and red tape and costs). For the town centre, it’s about bringing footfall back, revitalising empty spaces, showing alternative uses for spaces and building confidence in our high streets.

 

This project is an Urban Foundry initiative delivered in collaboration with Carmarthenshire County Council. It is funded by the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund.

 

www.urbanfoundry.co.uk

ideas@urbanfoundry.co.uk

Siopau sionc creadigol yn bywiogi YMCA Llanelli

Fel arbenigwyr blaenllaw mewn defnyddio mannau defnydd yn y cyfamser, mae Urban Foundry wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i drawsnewid adeilad YMCA Llanelli drwy gyfres o siopau sionc creadigol.

Mae’r unedau newydd yn yr YMCA wedi creu platfform i bobl greadigol ac entrepreneuriaid lleol brawf-fasnachu, cysylltu â chynulleidfaoedd newydd, a meithrin eu hyder busnes mewn lleoliad cefnogol.

Mae’r prosiect wedi defnyddio tair uned – Unedau 1, 3, a 4 – gyda masnachwyr ac artistiaid creadigol, gan roi lle iddyn nhw arddangos eu gwaith, cysylltu â’r gymuned, a thyfu eu busnesau.

 

Cariad Love

Mae Sophie Powell o Cariad Love yn wneuthurwr gemwaith ifanc talentog sydd wedi treulio’r 18 mis diwethaf yn gwerthu ei darnau wedi’u gwneud â llaw mewn marchnadoedd lleol. Dyma ei symudiad cyntaf i leoliad masnachol, ac mae eisoes yn profi i fod yn llwyddiannus. Mae Sophie nawr wedi cael yr uned ar osod am gyfnod hirach, sydd yn gam mawr ymlaen yn ei thaith fusnes.

‘Mae wedi bod yn anhygoel cael gofod siop go iawn i arddangos fy ngemwaith. Cefais hyd yn oed rywun yn comisiynu modrwy i’w defnyddio fel modrwy briodas – mae’n gymaint o hwb i hyder.’ Sophie Powell, Gwneuthurwr Gemwaith, Cariad Love

 

Gwydr Jo Partridge

Mae Jo Partridge, sy’n wyneb cyfarwydd ym Marchnadoedd Stryd Bae Abertawe Urban Foundry, hefyd yn gwerthu ei gwaith ac yn awyddus i gynnal gweithdai gwydr bob dydd Sadwrn yn Uned 3. Gall cyfranogwyr greu eu darnau gwydr eu hunain, ac wedyn bydd Jo yn eu tanio yn ei odyn yn barod i’w casglu yr wythnos ganlynol.

‘Mae’n ffordd wych o gael pobl i ddefnyddio’r lle. Rwyf wrth fy modd yn gweld pobl yn gadael gyda rhywbeth maen nhw wedi’i greu eu hunain hefyd.’ Jo Partridge, Artist Gwydr, Jo Partridge Glass

Ar ôl cyfnod prawf llwyddiannus, mae Jo wedi ymestyn ei harhosiad tan ddiwedd mis Mai.

 

Hannah Davies

Mae Hannah Davies, yr artist cain a’r dylunydd mewnol pensaernïol (sydd hefyd yn aelod cyswllt yn Urban Foundry!), yn arddangos ei darnau olew ar gynfas yn Uned 4. Mae’r arddangosfa yn cynnwys rhai o’i gweithiau diweddaraf. Mae Hannah hefyd yn fam i Makenzy Beard, artist ifanc y mae ei gwaith wedi ennill sylw byd-eang.

‘Mae wedi bod yn wych rhannu fy ngwaith celf mewn lleoliad mor hyfryd. Rydw i wedi cael adborth hyfryd, ac mae’n braf iawn cwrdd â phobl a sgwrsio am fy ngwaith, a chelf yn gyffredinol.’ Hannah Davies, Aelod Cyswllt, Urban Foundry

 

Ymweliad Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin

Aeth Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, ar daith o amgylch y prosiect siopau sionc gyda chynrychiolwyr allweddol o Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Roedd cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

Nick Williams, Cyfreithiwr Masnachol

Jonathan Baxter, Uwch-swyddog Ymchwil

Roedd cynrychiolwyr Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnwys:

Wendy Walters, Prif Weithredwr

Y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth

Stuart Walters, Pennaeth Datblygu Economaidd

Tessa Bufton, Rheolwr Adfywio Canol Trefi

 

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans:

“Mae prosiectau fel hyn yn dod ag egni ffres i ganol trefi, gan dynnu sylw at fusnesau lleol. Mae siopau sionc yn ffordd wych o adfywio’r stryd fawr. Yn Llanelli mae’r siopau sionc hyn nid yn unig yn fodd o ysgogi’r economi, maen nhw hefyd yn ffordd strategol o gynyddu nifer yr ymwelwyr, yn cefnogi entrepreneuriaeth, ac yn ailfywiogi’r stryd fawr. Mae’r unedau yn yr hen YMCA yn rhan o ddatblygiadau ehangach Cyngor Sir Caerfyrddin yng nghanol y dref sy’n cynnwys gwella’r defnydd o safleoedd gwag a safleoedd sydd heb fod yn cael eu defnyddio yng nghanol y dref, ac mae wedi cael eu hariannu’n rhannol gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru”.

 

Tara Tarapetian, Cyfarwyddwr, Urban Foundry:

‘Mae wedi bod yn wych gweld effaith y siopau sionc hyn, nid yn unig i’r masnachwyr, ond i’r gymuned gyfan. Rydym bob amser yn ymwybodol o effaith economaidd siopau sionc, ond mae hyn hefyd yn ymwneud ag effaith ddiwylliannol – cefnogi busnesau bach yn y sector creadigol. Mae hynny’n bwysig iawn i ni. Mae yna fwrlwm go iawn o gwmpas adeilad yr YMCA nawr.’ 

 

Llwyddiant siopau sionc

Mae hyn yn dod â chyfanswm Urban Foundry i 81 o siopau sionc ar draws y prosiect cyfan a gwahanol awdurdodau lleol – tyst i ba mor drawsnewidiol y gall y mentrau hyn fod i fusnesau lleol a’r gymuned.

Mae effaith y siopau sionc hyn yn fawr.  I’r masnachwyr, mae’n gyfle i dreialu syniadau newydd, cynyddu eu cwsmeriaid, a chael y profiad o redeg siop heb yr ymrwymiad hirdymor (a’r tâp coch a’r costau). Mae hyn yn dod ag ymwelwyr yn ôl i ganol y dref, yn adfywio llefydd gwag, yn dangos bod modd defnyddio llefydd at ddibenion eraill ac yn adeiladu hyder yn y stryd fawr.

 

Mae’r prosiect hwn yn fenter Urban Foundry a gyflwynir mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Caerfyrddin. Fe’i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

www.urbanfoundry.co.uk

ideas@urbanfoundry.co.uk